Home > Polisi Preifatrwydd

Swyddfa Nia Griffith AS (Llanelli) – Polisi Preifatrwydd

Fi yw Aelod Seneddol Etholaeth Llanelli. Fel eich Aelod Seneddol, mae’n bwysig fy mod i a fy swyddfa yn gallu cadw mewn cysylltiad â fy etholwyr er mwyn sicrhau; eu bod yn derbyn gwybodaeth ddiweddar ynghylch fy ngwaith, fy mod i’n gallu gwneud gwaith achos ar eu rhan  nhw a fy mod i’n gallu gofyn am eu barn ar faterion lleol.

Fel Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur, mae gennyf fynediad at wybodaethau eraill a fydd yn cael eu defnyddio gennyf i, fy swyddfa neu wirfoddolwyr sy’n gweithio â mi, at ddibenion ymgyrchu neu gysylltu ag aelodau o’r Blaid Lafur. Y Blaid Lafur yw rheolwr data’r data hwn a dylid adolygu ei pholisi preifatrwydd (https://labour.org.uk/privacy-policy/ ) am fanylion ar y gwybodaethau mae’n eu cadw ynghyd â pham a sut mae’n defnyddio a phrosesu’r gwybodaethau hynny.

Mae’r dudalen hon yn egluro sut yr wyf yn casglu ac yn defnyddio data personol a’r sail gyfreithiol dros ei gasglu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich hawliau chi ynghylch eich data personol yr wyf i’n gyfrifol amdano.

Gellir cysylltu â fy swyddog cyfrifol diogelu data trwy ei e-bostio: liam.taggart@parliament.uk neu ei ffonio: 0207 219 4903.

 

Casglu a defnyddio data

Bydd swyddfa Nia Griffith AS ond yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol at union ddibenion y pwrpas y casglwyd y data ar ei gyfer.

Byddaf yn ymgymryd â gwaith achos gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol a ddarparwyd gan neu ar ran etholwyr. Mae’n bosib y bydd yn angenrheidiol i mi rannu eich gwybodaeth chi gyda sefydliadau trydydd parti. Serch hynny, byddaf ond yn rhannu gwybodaeth os yw’n angenrheidiol ac yn rhesymol i mi ei rannu. Lle rennir gwybodaeth, byddaf ond yn rhannu’r manylion sydd yn hanfodol i mi allu eich cefnogi, heb rannu unrhyw wybodaeth ar ben hynny. Gweler adran “pwy yr wyf yn rhannu’ch data â nhw” am fanylion pellach.

Efallai y byddwch yn cael eich gofyn i gyflwyno manylion personol wrth; gofrestru â fy ngwefan, cofrestru gydag un o’n rhestrau/ymgyrchoedd/digwyddiadau neu wrth lenwi ffurflen/holiadur. Ym mhob un o’r achosion hyn, gofynnaf am eich caniatâd penodol i gael defnyddio’r data hwn a byddaf ond yn ei ddefnyddio at y dibenion penodol a gyflwynwyd ar eu cyfer.

Mae’n bosib y byddaf yn cysylltu â chi trwy bost, e-bost, ffôn neu neges testun i roi gwybod i chi am, fy ngwaith, y newyddion diweddaraf ynghylch fy ymgyrchoedd a sut i gyfranogi.

Mae gennyf hawl cyfreithiol at dderbyn cofrestr etholwyr llawn fy etholaeth sy’n cynnwys enw llawn a chyfeiriad pob etholwr cofrestredig ac mae’n bosib y byddaf yn cysylltu â chi ynghylch yr hyn yr wyf yn ei wneud fel AS.

Byddaf ond yn cysylltu â chi trwy e-bost, neges testun neu alwad ffôn i roi gwybod am fy ngweithgareddau fel AS os ydych wedi rhoi eich caniatâd penodol i mi gysylltu â chi trwy’r dulliau hyn. Gallwch dynnu eich caniatâd i gael eich cysylltu ar unrhyw adeg trwy gysylltu â’n swyddog diogeli ddata neu trwy ddefnyddio’r botwm datdanysgrifio yr wyf yn ei gynnwys ym mhob un o’r cyfathrebiadau hyn.

Ni fyddaf yn defnyddio data personol at ddibenion proffilio neu wneud penderfyniadau yn awtomataidd.

Pwy yr wyf yn rhannu eich data â nhw

Pan fyddaf yn codi achos ar eich rhan chi, mae’n bosib y bydd yn rhaid i mi rannu’r data a roddwyd i mi gennych gydag adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Byddaf ond yn rhannu gwybodaeth sy’n gwbl hanfodol at bwrpas gweithredu ar eich achos. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut caiff wybodaeth yr ydych yn ei roi i ni fel rhan o gais am gymorth ei defnyddio, cysylltwch â fy Swyddog Diogeli Ddata am ragor o wybodaeth.

Ac eithrio’r achosion uchod, ni fyddaf yn rhannu gwybodaeth bersonol gydag unrhyw gyrff eraill heb eich caniatâd penodol.

Er mwyn i mi allu rhoi gwybod i chi am fy ngwaith fel AS Etholaeth Llanelli, mae’n bosib bydd yn rhaid i mi drosglwyddo data personol i wledydd neu awdurdodau sydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Ym mhob un achos, byddaf yn gweithredu i sicrhau bod darparwyr yr wyf i’n eu defnyddio yn cydymffurfio â’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol neu yn ddarostyngedig i’r cynllun Tarian Preifatrwydd (Privacy Shield) a gytunwyd rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America.

Cadw data personol

Byddaf ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar yr amod ei bod yn angenrheidiol i’w chadw i allu gweithredu’r dibenion a ddisgrifiwyd yn y polisi hwn.

Os ydych wedi rhoi eich caniatâd i dderbyn gwybodaeth ynghylch fy ngwaith, byddaf ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra fy mod i’n AS dros Aelod Llanelli neu hyd nes eich bod chi’n gofyn i mi beidio â chysylltu â chi ymhellach.

Cedwir gwybodaeth yngl?n â gwaith achos hyd at nad oes ei angen bellach i ddatrys neu gyflawni eich cais. Er hynny, byddaf yn cadw peth gwybodaeth am waith achos a ddatryswyd rhag ofn y byddwch yn cysylltu â mi am gymorth yn y dyfodol.

Byddaf yn adolygu’r wybodaeth bersonol a gedwir gennyf yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y defnydd ohono yn angenrheidiol ac yn addas.

Fy ngwefan

Nid yw fy ngwefan (www.niagriffith.org) yn dwyn neu’n storio gwybodaeth bersonol defnyddiwr ac eithrio ei Gyfeiriad IP neu leoliad eich cyfrifiadur neu rwydwaith ar y Rhyngrwyd at ddibenion gweinyddu a chanfod a datrys problemau. Rydw i hefyd yn defnyddio cyfeiriadau IP er mwyn cydgasglu a thracio pa dudalennau o’r wefan y mae pobl yn ymweld â nhw er mwyn gwella ansawdd y wefan.

Mae cwci yn ffeil testun bach a storir ar eich cyfrifiadur. Gall gwcis cael eu defnyddio i deilwra eich profiad o’r wefan yn ôl unrhyw ddewisiadau a nodwyd gennych. Nid yw cwcis ar y wefan hon yn cynnwys unrhyw wybodaeth a ellir eich adnabod trwy ei ddadansoddi, ac eithrio eich cyfeiriad IP sydd ond yn cynnwys digon o wybodaeth i’ch adnabod fel unigolyn mewn achosion prin.

Mae fy ngwefan yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill. Nid wyf i’n gyfrifol am gynnwys neu arferion preifatrwydd y gwefannau hyn.

Eich hawliau

Mae gennych sawl hawl ynghylch eich gwybodaeth bersonol ac mae gennych yr hawl i ddewis sut caiff ei defnyddio. Gallwch:

  • Dderbyn copïau o’r wybodaeth bersonol yr wyf yn ei dal sy’n ymwneud â chi (elwir yn “cais mynediad at wybodaeth”)
  • Gofyn i mi gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth bersonol yr wyf yn ei dal sy’n ymwneud â chi
  • Gofyn i ni ddileu eich data neu i gyfyngu ar y dull yr wyf yn defnyddio eich data
  • Gofyn bod gwybodaeth bersonol yr ydych wedi fy nghaniatáu i’w defnyddio yn cael ei rhoi i chi ar ffurf electronig fel y gellir ei throsglwyddo i reolydd data arall (elwir hefyd yn “Cludadwyedd Data”

Mae hawl gennych ddewis peidio â derbyn unrhyw ohebiaeth bellach oddi wrthyf ar unrhyw ffurf ar unrhyw adeg. Delir â phob cais i datdansgrifio yn brydlon ac, ym mhob achos, tu fewn i ddwy wythnos.

Os hoffwch weithredu’ch hawl ynghylch eich data personol neu os oes gennych unrhyw bryder ynghylch sut caiff eich data ei ddefnyddio, cysylltwch â fy swyddog diogelu data:

Liam Taggart

Cyfeiriad: Swyddfa Nia Griffith AS, T?’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA

Cyfeiriad e-bost: liam.taggart@parliament.uk

Rhif ffôn: 0207 219 4903

Fel arall, mae gennych yr hawl i godi unrhyw fater neu unrhyw bryder sydd gennych yn uniongyrchol gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Cyfeiriad: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF

Gwefan: https://ico.org.uk/

E-bost:  https://ico.org.uk/global/contact-us/email/

Ffôn: 01625 545 745

Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn gyson ac o ganlyniad i hyn gall gael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd felly dylswch ei wirio pob tro yr ydych yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i ni. Bydd dyddiad y newidiadau diweddaraf yn cael eu dangos ar fy ngwefan. Os nad ydych yn cytuno i’r newidiadau hyn, peidiwch â pharhau i ddefnyddio fy ngwefan i gyflwyno gwybodaeth bersonol. Os bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i’r polisi preifatrwydd hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy osod hysbyseb amlwg ar fy ngwefan.