Home > Nia Griffith

Rwyn byw yn Llanelli a’m braint yw bod yn aelod seneddol dros etholaeth Llanelli ers 2005.

Ym Mis Hydref eleni cefais fy mhenodi gan arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn AS i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn yng Nghabinet Wrthblaid Llafur.

Cyn dod yn AS, gweithiais am ryw ugain mlynedd mewn ysgolion cyfun lleol gan ddysgu ieithoedd modern ac fel arolygydd Estyn. Y tu allan i’r dosbarth, bum yn frwd dros fynydda a beicio, gan dywys disgyblion ar  deithiau Gwobr Dug Caeredin, yn ogystal â bod yn weithgar iawn yn y gymuned leol, gan gyfrannu at sefydlu Clwb Ieuenctid lleol a gr?p Cymorth i Fenywod.

Yn ystod fy nghyfnod seneddol cyntaf, (2005 – 2010), ’roeddwn yn  Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i’r Gwir Anrhydeddus Hilary Benn AS, Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan weithio ar bynciau’n cynnwys Bil Newid yn yr Hinsawdd, y Bil Morol a llifogydd. Yna ’roeddwn yn PPS i Harriet Harman AS gan ei chefnogi yn ei gwaith fel Arweinydd y T? Cyffredin, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau ac Arweinydd Dros Dro’r Blaid Lafur.

Ers 2010 mae Llafur wedi bod yn wrthblaid ac yr wyf wedi bod yn rhan o dîm rheng flaen Llafur, yn gyntaf fel llefarydd busnes â chyfrifoldeb am faterion y defnyddwyr, cyfraith cyflogaeth a gwrthwynebu  preifateiddio’r Post Brenhinol ac yna fel  Gweinidog  Llafur ar Gymru a Phrif Lefarydd Llafur ar Gymru.

Mae cysylltiad agos rhwng fy ngwaith seneddol a diddordebau a phryderon f’etholwyr ac mae gweithredu trwy ddeddfu a holi gweinidogion yn y Senedd yn rhan o’m agwedd  ymarferol tuag at broblemau yn yr etholaeth.