Home > Nia Griffith > Llanelli

Mae etholaeth Llanelli yn Ne-orllewin Cymru. Mae’n ymestyn o’r Hendy yn y dwyrain i lawr i’r môr, ac yna ar hyd yr arfordir i Gydweli yn y gorllewin. Mae’n dilyn Cwm Gwendraeth i’r Tymbl, ac yn mynd ar draws gwlad i Tycroes. Mae tua 60,000 o bobl yn byw yn yr etholaeth. Cyngor Sir Gâr yw’r awdurdod lleol ar gyfer etholaeth Llanelli.

Gweledigaeth Nia ar gyfer Llanelli

I mi, mae gwleidyddiaeth wedi bod erioed yn fodd i ymrwymo mewn ffurf ymarferol, positif.

Y bwriad yw gwella bywyd yn ein cymunedau lleol ac i geisio dylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Mae’n fater o weithio gyda’n gilydd, gan wrando ar ein gilydd, ystyried gwahanol safbwyntiau, a darganfod ffyrdd ymarferol i wella ansawdd byw yn ein cymunedau. Byddai’n amhosib sôn am fy marn ar bob testun, ond dyma fy mhrif egwyddorion:

  • Sicrhau bod llwyddiant economaidd Llafur yn cyrraedd ein cymunedau tlotaf, gan ddiogelu a chreu swyddi cynaliadwy o safon.
  • Ymestyn cyfleoedd a ffyniant economiadd i bawb trwy ddarparu gwell cyfleusterau ysgol, mwy o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau, hyfforddiant gweithle, a gofal plant fforddiadwy.
  • Cynnal buddsoddiad yn yr NHS, cryfhau Ysbyty’r Tywysog Phylip a gwella gofal cychwynnol a gwasanaeth cymuned.
  • Sicrhau urddas a diogelwch i’r henoed, trwy ddarparu pensiwn addas a gofal cymdeithasol safonol.
  • Gwella safon ein hamgylchedd trwy ddatblygu sensitif yng nghanol tref Llanelli ac yng Nghwm Gwendraeth.
  • Cefnogi’r frwydr yn erbyn troseddu, gan leihau delio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac adeiladu ar y cwymp o 30% mewn troseddu ers pan ddaeth Llafur ddod i rym.
  • Cyfrannu i leihad yr effaith t? gwydr trwy sicrhau bod mwy o dai yn effeithlon wrth drin ynni, mwy o ficrogynhyrchu megis paneli solar, gwell cyfleusterau ailgylchu a mentrau trafnidiaeth ecogyfeillgar.”

Hanes Etholaeth Llanelli

Rhagflaenwyd Nia gan dri gwleidydd Llafur nodedig.

Roeddent wedi dal sedd Llanelli dros y blaid Lafur yn ddi-dor ers 1922. Eu henwau oedd yr Anrhydeddus Dr J. H. Williams, a wasanaethodd yr etholaeth am 14 mlynedd, y Gwir Anrhydeddus Jim Griffiths, a wasanaethodd am 34 mlynedd, a’r Gwir Anrhydeddus Denzil Davies a wasanaethodd am 35 mlynedd.

Dr. J. H. Williams

Dr. J. H. Williams oedd Aelod Seneddol Llafur cyntaf Llanelli. Enillodd gydnabyddiaeth eang am ei waith diflino dros gael iawndal teg i lo?yr a gawsai anafiadau. Pan etholwyd ef i’r Senedd ym 1922, yr oedd yn un o ond tri aelod Llafur o Dde Cymru nad oeddent eu hunain yn lo?yr.

Y Gwir Anrhydeddus James Griffiths

Olynwyd Dr Williams gan y Gwir Anrhydeddus James (Jim) Griffiths, a wnaeth hefyd waith gloyw dros iawndal i lo?yr. Yn hydref 1945 roedd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno Deddf Yswiriant Cenedlaethol (Anafiadau Diwydiannol) 1946, gydag amodau’r ddeddf wedi eu selio ar ei brofiadau yntau fel ysgrifennydd iawndal glowyr de Cymru.

Efallai bod Jim Griffiths yn fwyaf enwog am ei waith fel Gweinidog dros Yswiriant Cenedlaethol. Cyflwynodd Mesur Yswiriant Cenedlaethol 1948. Disgrifiodd hwn fel “cynllun unedig a chynhwysfawr gyda darpariaeth ar gyfer y genedl gyfan”. Peth sydd o bosib yn llai hysbys yw mai Jim Griffiths gyflwynodd y system gyntaf o lwfans teuluol.

Yn y 1940au roedd Jim eisoes yn ymgyrchu – cyn sawl un o’i gyfoedion gwleidyddol – dros gydnabod Cymru fel uned wleidyddol ar wahân a thros sefydlu Swyddfa Gymreig. Bu ei ddylanwad yn drwm yn hyn o beth ar bolisi Cymreig y Blaid Lafur yn etholiad 1959: addawyd y byddai llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn Ysgrifennyd Gwladol Cymru fel Aelod o’r Cabinet ac y ceid datganoli.

Pan etholwyd llywodraeth Lafur ym 1964, daeth Jim Griffiths i fod yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyntaf erioed. Sefydlodd y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd a Llundain. Yn y 1970au – fel arloeswr unwaith eto – roedd yn cefnogi cynulliad cenedlaethol a etholwyd yn ddemocrataidd, ond roedd hefyd am i Gymru barhau i fod yn rhan hanfodol o’r Deyrnas Unedig, ac i gael ei chynrychioli ar y lefel uchaf yn y Cabinet gan Ysgrifennydd Cymru. Byddai Jim wedi bod yn falch cael gweld llwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol.

Y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies

Dilynwyd Jim Griffiths gan y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies, a etholwyd ym 1970 . Gwasanaethodd etholaeth Llanelli am 35 mlynedd, hyd nes iddo ymddeol gyda dyfodiad etholiad 2005.

Wedi iddo radio a gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith o Goleg Pembroke, Rhydychen, fe fu Denzil yn darlithio ym mhrifysgolion Chicago a Leeds. Daeth yn fargyfreithiwr ym 1964 ac yn Gyfrin Gynghorwr ym 1978.

Cydnabuwyd gallu Denzil yn y Senedd ac ym 1974 daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ym 1975 fe’i dyrchafwyd i fod yn Weinidog Gwladol yn y Trysorlys, lle y gwasanaethodd yn llywodraethau Wilson a Callaghan.

Wedi i’r blaid Lafur ddod yn wrthblaid, gwasanaethodd Denzil fel llefarydd mainc flaen yr wrthblaid ar faterion economaidd a’r trysorlys, ar faterion tramor a’r Gymanwlad ac ar amddiffyn a diarfogi.

Trwy gydol ei yrfa fel Aelod Seneddol, fe adwaenid Denzil yn y Senedd ac yn etholaeth Llanelli am ei allu eithriadol, ei ffraethineb a’i huodledd.