Home > Uncategorized > Newidiadau terfyn cyflymder

Mae’r terfyn cyflymder rhagosodedig newydd o 20 mya wedi’i gynllunio i leihau damweiniau, anafiadau a marwolaethau difrifol ar ein ffyrdd.

Mae’n bwysig, fodd bynnag, bod ei weithrediad mewn cymunedau lleol yn cael ei wneud mewn ffordd deg, synhwyrol a hawdd ei deall. Rwyf wedi cael nifer o negeseuon yn gofyn pam mae rhai ffyrdd wedi’u lleihau i 20 mya, pam nad yw rhai wedi’u gwneud ac os byddai modd edrych eto ar benderfyniadau unigol.

Rwyf felly yn llunio rhestr o leoliadau penodol i’w cyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin lle mae gan bobl bryderon ynghylch sut mae’r mesurau newydd wedi’u cyflwyno. Rhowch wybod i mi os oes gennych unrhyw le penodol yr hoffech ei ychwanegu at y rhestr a byddaf yn sicrhau ei fod yn cael ei godi gyda hwynt yn uniongyrchol. Gallwch gysylltu drwy e-bostio’r manylion ataf at nia.griffith.mp@parliament.uk

Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt gynhyrchu mapiau gwell at ddefnydd y cyhoedd fel y gellir arddangos yr holl derfynau cyflymder a newidiadau ar gyfer ffyrdd lleol mewn modd symlach. Mae’r unig rai yr wyf wedi’u gweld hyd yn hyn braidd yn aneglur, yn ddryslyd ac nid ydynt yn ddefnyddiol iawn o gwbl.