Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn Llwybr Bwgan Brain Trimsaran.
Dyma arddangosfa anhygoel sy’n dathlu popeth o fywyd lleol i baralympiaid Cymru, cymeriadau teledu a llyfr, chwaraeon a llawer mwy gyda syniadau artistig clyfar.
Mae pawb yn enillydd am fywiogi Trimsaran, ond am enillwyr y gystadleuaeth, ewch i Trimsaran Scarecrow Trail ar Facebook.
Diolch i Barry Kirby a’r tîm am drefnu.