Mae’n wych gweld enghreifftiau o sut mae Castell Howell Foods yn cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd bach yng Nghymru – trwy farchnata cawsiau fel Blue Wenallt ac Angiddy o Brooke’s Dairy, a chaws gafr Pantysgawn. Cefais y pleser o gwrdd â chynrychiolwyr y busnesau hyn mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos hon.
Maent hefyd yn gwneud gwaith gwych yn marchnata nwyddau gan ein cynhyrchwyr bwyd a diod lleol rhagorol yma yn Sir Gaerfyrddin.

