Etholaeth
Mae etholaeth Llanelli yn Ne-orllewin Cymru. Mae’n ymestyn o’r Hendy yn y dwyrain i lawr i’r môr, ac yna ar hyd yr arfordir i Gydweli yn y gorllewin. Mae’n dilyn Cwm Gwendraeth i’r Tymbl, ac yn mynd ar draws gwlad i T?croes. Mae tua 60,000 o bobl yn byw yn yr etholaeth. Cyngor Sir Gâr yw’r awdurdod lleol ar gyfer etholaeth Llanelli.
Gweledigaeth Nia ar gyfer Llanelli
“I mi, mae gwleidyddiaeth wedi bod erioed yn fodd i ymrwymo mewn ffurf ymarferol, positif.”
“Y bwriad yw gwella bywyd yn ein cymunedau lleol ac i geisio dylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.”
“Mae’n fater o weithio gyda’n gilydd, gan wrando ar ein gilydd, ystyried gwahanol safbwyntiau, a darganfod ffyrdd ymarferol i wella ansawdd byw yn ein cymunedau. Byddai’n amhosib sôn am fy marn ar bob testun, ond dyma fy mhrif egwyddorion:
- Sicrhau bod llwyddiant economaidd Llafur yn cyrraedd ein cymunedau tlotaf, gan ddiogelu a chreu swyddi cynaliadwy o safon.
- Ymestyn cyfleoedd a ffyniant economiadd i bawb trwy ddarparu gwell cyfleusterau ysgol, mwy o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau, hyfforddiant gweithle, a gofal plant fforddiadwy.
- Cynnal buddsoddiad yn yr NHS, cryfhau Ysbyty’r Tywysog Phylip a gwella gofal cychwynnol a gwasanaeth cymuned.
- Sicrhau urddas a diogelwch i’r henoed, trwy ddarparu pensiwn addas a gofal cymdeithasol safonol.
- Gwella safon ein hamgylchedd trwy ddatblygu sensitif yng nghanol tref Llanelli ac yng Nghwm Gwendraeth.
- Cefnogi’r frwydr yn erbyn troseddu, gan leihau delio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac adeiladu ar y cwymp o 30% mewn troseddu ers pan ddaeth Llafur ddod i rym.
- Cyfrannu i leihad yr effaith t? gwydr trwy sicrhau bod mwy o dai yn effeithlon wrth drin ynni, mwy o ficrogynhyrchu megis paneli solar, gwell cyfleusterau ailgylchu a mentrau trafnidiaeth ecogyfeillgar.”
