Home > Uncategorized > Cynhadledd y Blaid Lafur – ffocws ar gyflogaeth ieuenctid

Da clywed bod Stephen Kinnock AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn pwysleisio buddsoddiad a chyflogaeth ieuenctid yn ei araith i Gynhadledd y Blaid Lafur heddiw.

Yn ddiweddar, ymwelais â Chanolfan Ieuenctid newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli – mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r sgiliau i bobl ifanc gael swyddi â chyflog da yn y diwydiant gwynt ar y môr sy’n tyfu a’r gadwyn gyflenwi a’r seilwaith porthladd i’w gefnogi.