Bron i bum mis ar ôl cau darpariaeth Swyddfa’r Post ar Heol yr Orsaf, mae Cydweli yn dal heb olynydd.
Rwyf wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Post yn galw arnyn nhw i gyflwyno gwasanaeth symudol dros dro i’r gymuned leol nes bod dewis arall parhaol yn cael ei drefnu.
