Mae’r Ty Planhigion Cyfrinachol ar ben gorsaf fysiau Llanelli yn wir yn gyfrinach ……… felly os nad ydych wedi’i weld eto, ewch i gael golwg.
Wrth i chi fynd i mewn, mae fel Plantasia bach; rydych chi’n wynebu màs o blanhigion cartref egsotig, ond mae hefyd yn siop goffi gyda seddi dan do ac awyr agored, yn gweini amrywiaeth o fyrbrydau.
Roedd yn bleser cwrdd â’r sylfaenydd Cameron Reardon-Davies yno’n ddiweddar, a eglurodd yn frwdfrydig sut y gwnaethon nhw adeiladu’r hyn sydd bellach yn fusnes llewyrchus, gyda gwerthiannau ledled y DU.
Ymddengys bod y cactws, a oedd yn boblogaidd iawn gyda chenedlaethau blaenorol, yn dychwelyd. Ac roedd y coffi’n arogli’n dda!
