Mae Her Ddarllen yr Haf yr Asiantaeth Ddarllen bellach ar y gweill ledled Cymru a Lloegr!
Mae thema ‘Darllen i’r Curiad’ eleni yn dathlu’r cysylltiad rhwng straeon a cherddoriaeth, gan annog plant i ddarganfod llawenydd darllen dros wyliau’r haf.
Mae’r her yn rhad ac am ddim a gall plant gymryd rhan drwy eu llyfrgell leol neu ar-lein yn https://summerreadingchallenge.org.uk/
Mae pob llyfr yn cyfrif, a gall cyfranogwyr ennill gwobrau wrth iddynt ddarllen!
Os ydych chi’n chwilio am weithgaredd hwyliog, rhad ac am ddim yr haf hwn, beth am gofrestru?

