Home > Uncategorized > Diweddariad ymgyrch Gwylwyr y Glannau gwirfoddoli

Mae gennym gadarnhad swyddogol nawr na fydd y newid i fodel gwirfoddolwyr sy’n derbyn treuliau yn unig yn mynd rhagddo ym mis Medi.

Gweler y llythyr hwn gan y Gweinidog Keir Mather o’r Adran Drafnidiaeth lle mae’n dweud, “Felly gallaf gadarnhau na fydd cynlluniau i symud i’r model gwirfoddolwyr treuliau yn unig ym mis Medi yn mynd rhagddo, a bydd y trefniadau presennol yn parhau yn eu lle.” ac yna mae’n egluro’r camau nesaf.

Gallem weld ei fod yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw yn y cwestiynu a wnaethom yn y Senedd, ond mae’n dda ei gael yn ysgrifenedig.