Mae cyhoeddiad ddoe gan WRU wedi taflu mwy o anhrefn ac ansicrwydd ar ein gêm genedlaethol unwaith eto ac wedi tanlinellu pryderon dilys, angerddol ymhlith y rhai sy’n ei chyflwyno a’i chefnogi ar lefel leol a rhanbarthol.
Mae angen i’r broses o benderfynu ar y dyfodol fod yn agored, yn deg ac yn dryloyw. Dylai wobrwyo llwyddiant ar y cae, gweledigaeth hirdymor ac adeiladu ar dreftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon ein cenedl trwy helpu i ddatblygu ei photensial yn wirioneddol, yn enwedig yma yng Ngorllewin Cymru lle mae gennym hanes balch a sylfeini cryf.
Mae’r Scarlets eisoes wedi dangos y gallant gyflawni’r angen hwnnw gyda mwy o bresenoldeb mewn gemau, llinell gynhyrchu ffyniannus o dalent chwarae a hyfforddi ar draws pob gr?p oedran a’r stadiwm rygbi rhanbarthol gorau yng Nghymru.
Byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i sefyll dros rygbi rhanbarthol yma yn Llanelli ac ar draws Gorllewin Cymru gyfan. Nid yw cefnogwyr, ein cymunedau lleol a’r rhai sydd wedi rhoi eu hamser, eu hegni a’u hymrwymiad i’n gêm genedlaethol yn haeddu dim llai.