Cafodd Cyfraith Hillsborough gymeradwyaeth yn Nh?’r Cyffredin ddoe i ailosod y cydbwysedd rhwng y wladwriaeth a phobl gyffredin a sicrhau nad oes gan anghyfiawnder le i guddio.
Mae’r Mesur hwn a’i etifeddiaeth yn perthyn i deuluoedd y 97 a gariodd ffagl cyfiawnder trwy ddegawdau o dywyllwch a gwrthod ildio nes bod y gwir yn hysbys.
Mae hon yn ymgyrch rydw i wedi’i chefnogi ers tro byd a phan gyfarfûm yr wythnos diwethaf â’r Gweinidog Cyfiawnder, Catherine Atkinson AS, roeddwn i mor falch o glywed bod dadleuon cyfreithiol a oedd yn oedi’r Mesur bron â chael eu datrys.
Bydd y gyfraith newydd nawr yn helpu i sicrhau na fydd yn rhaid mwyach i wirionedd a chyfiawnder gael eu gorfodi allan o’r tu ôl i ddrysau caeedig, ac na fydd teuluoedd sy’n chwilio am atebion byth eto’n cael eu gadael i ymladd ar eu pennau eu hunain.