Rwy’n pryderu bod Gwylwyr y Glannau EM wedi hysbysu Swyddogion Achub Gwylwyr y Glannau gwirfoddol na fyddant yn derbyn tâl fesul awr o fis Medi ymlaen am fynychu digwyddiadau, ymarferion hyfforddi a dyletswyddau gweithredol. Mae hwn yn fater difrifol yma’n lleol gyda’n harfordir hir a’n haberoedd peryglus.
Mae’r penderfyniad yn gic go iawn yn y dannedd. Rwyf wedi llofnodi Cynnig Diwrnod Cynnar yn y Senedd am y cynllun, wedi cysylltu â’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU yn gofyn iddo adolygu’r cynnig hwn a byddaf yn ei godi gyda’r Gweinidog yn uniongyrchol yn y Senedd yfory.
