Diolch yn fawr iawn i’r Arglwydd Vernon Coaker, Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn am nid yn unig fynychu digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ym Mhen-bre heddiw, ond am dreulio cymaint o amser gyda’n cyn-filwyr, cadetiaid, y lluoedd arfog sy’n gwasanaethu a’n cymuned Bwylaidd leol sy’n cadw’n fyw atgofion y 7 awyrennwr Pwylaidd a gladdwyd ym mynwent eglwys Pen-bre a helpodd i’n hamddiffyn yn yr Ail Ryfel Byd.
Yn y llun yma gyda pheiriant Enigma…. y cod a helpodd y Pwyliaid i’w gracio…. ac yna gyda RAF Falcon a gyflwynodd naid barasiwt ysblennydd yn ddiweddglo gwych i’r diwrnod. Diolch yn fawr i’r Comodor Awyr Rob Woods OBE, Cyngor Sir Caerfyrddin a phawb a weithiodd yn galed i wneud heddiw yn llwyddiant.

