Home > Uncategorized > Y ci arobryn George sy’n arwain y ffordd!

Cwrdd â George – ci arbennig iawn arobryn sy’n cefnogi pobl ifanc yn Ysgol Penygaer.

Roedd George a’i berchennog, Pat Stevens, yn y Senedd yr wythnos diwethaf gan ei fod yn un o enillwyr Cynghrair C?n Ysgol Genedlaethol – gwobr Ci Ysgol Gynradd y Flwyddyn NSDA!

Mae George a Pat yn gwirfoddoli bob wythnos i helpu disgyblion gyda’u darllen ac yn gwneud gwaith rhyfeddol i wella eu hyder a’u sgiliau iaith. Mae cymaint o fanteision posibl i ddysgwyr ifanc ryngweithio â ch?n ar eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol, corfforol, ymddygiadol a gwybyddol ac rwy’n falch o weld ein bod ni yma’n lleol yn Llanelli yn helpu i arwain y ffordd.

Llongyfarchiadau i George, Pat, Ysgol Gynradd Penygaer a phawb sydd wedi gwneud y fenter gydnabyddedig genedlaethol hon yn bosibl!