Mae’r Fonesig Nia Griffith, AS Llanelli, wedi cefnogi camau gweithredu newydd Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â gangiau troseddu trefnedig sy’n camfanteisio ar y strydoedd mawr trwy fusnesau twyllodrus.
Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cyhoeddi ymgyrch genedlaethol gwerth £30 miliwn yn targedu siopau barbwr, siopau vape, marchnadoedd bach a siopau melysion amheus sy’n ymwneud â gwyngalchu arian. Bydd y siopau hyn yn wynebu cyrchoedd, gorchmynion cau ac atafaelu arian parod fel rhan o ymgyrch newydd i lanhau ein strydoedd mawr.
Mae’r mesurau’n cynnwys creu Uned Troseddau Cyfundrefnol Stryd Fawr newydd i gydlynu gweithredu rhwng yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, heddluoedd, Safonau Masnach, CThEM a Gorfodi Mewnfudo.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn recriwtio swyddogion ychwanegol i gryfhau gweithgaredd gorfodi mewn rhanbarthau problemus, tra bydd Safonau Masnach yn derbyn hwb ariannol i gynyddu cyrchoedd, archwiliadau a chamau gorfodi.
Mae’r ymgyrch hon yn adeiladu ar Operation Machinize, yr ymgyrch fwyaf a gynhaliwyd erioed yn erbyn troseddau economaidd ar strydoedd mawr Prydain. Yn ystod cam diweddaraf yr ymgyrch honno, ymwelwyd â 2,734 o safleoedd a chynhaliwyd cyrchoedd arnynt, arestiwyd 924 o unigolion, atafaelwyd neu ataliwyd mwy na £13 miliwn mewn elw troseddol a amheuir, a dinistriwyd dros £2.7 miliwn o nwyddau anghyfreithlon.
Dywedodd yr AS Dame Nia Griffith:
“Mae’n bwysig y gall pawb deimlo’n ddiogel ac yn falch o’n strydoedd mawr lleol a’n hardaloedd siopa ac nad yw busnesau gonest, sy’n ufudd i’r gyfraith yn cael eu tanseilio gan droseddwyr cyfundrefnol sy’n gweithredu gerllaw.”
“Am gyfnod rhy hir, mae gangiau troseddol wedi defnyddio busnesau twyllodrus fel ffrynt i wyngalchu arian, camfanteisio ar weithwyr a dod â throsedd i’n strydoedd lleol.”
“Mae’r ymgyrch hon a’r adnoddau ychwanegol sy’n mynd gydag ef yn anfon neges glir – rydym yn cymryd ein strydoedd mawr yn ôl, yn cefnogi busnesau bach ac yn gyrru troseddau cyfundrefnol allan o galon ein cymunedau.”