Nodyn atgoffa olaf i gael sylwadau ar Feddygfa’r Sarn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad – 6ed Ebrill – Dydd Llun y Pasg.
Mynychais y digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus yn Neuadd Carway ddydd Mawrth, ac unwaith eto pwysleisiais i’r Bwrdd pa mor bwysig yw rhoi cleifion yn gyntaf a chadw safle a meddygfeydd rheolaidd ym Mhontiets.
Mae angen i’r Bwrdd edrych ar y ffordd orau o WARANTU…trefniant na fyddai’n debygol o apelio at feddygfa annibynnol o’r tu allan i Bontiets. Mae’r Bwrdd eisoes yn rheoli Mynyrafon, felly gallent reoli a gwarantu darpariaeth meddygfeydd ym Mhontiets.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi lleisio barn i’r Bwrdd ac yn enwedig y Gr?p Gwaith Achub Meddygfa Sarn am yr holl waith y maent wedi’i wneud yn eu hadroddiad cynhwysfawr.