Home > Uncategorized > Teyrnged i’r diweddar Idwal Davies BEM

Roedd yn anrhydedd cael siarad am y diweddar Idwal Davies BEM yn y cyflwyniad ôl-farwolaeth o’i Fedal Ymerodraeth Prydain i’w deulu gan yr Arglwydd Raglaw ddydd Sadwrn.

Mor drist iddo farw cyn y gellid ei chyflwyno, ond o leiaf fe gafodd fyw i weld y cyhoeddiad a’n llongyfarchiadau. Gall teulu Idwal fod yn hynod falch o’r wobr hon, i gydnabod ei gyfraniad enfawr i’n cymuned, yn enwedig ei waith gyda cyfeillion yr ysbyty a’r cyn-filwyr a’i gyfraniad at hanes lleol trwy ei lyfr.

Bydd colled fawr ar ei ôl, ac fel mae teitl ei lyfr yn ei ddweud wedi mynd, ond nid wedi’i anghofio.