Home > Uncategorized > Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn un o’r rhoddion mwyaf y gallwch chi ei rhoi i chi’ch hun

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei atal a marwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd. Mae’n rhoi pwysau ar y GIG ac mae’n brif ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd, gyda’r gyfradd uchaf mewn cymunedau mwy difreintiedig.

Mae’r dystiolaeth yn glir bod rhoi’r gorau i ysmygu yn darparu manteision iechyd uniongyrchol a hirdymor, yn lleihau straen ariannol ar aelwydydd, ac yn gwella lles cyffredinol.

Ar #DiwrnodDimYsmygu, rhoi’r gorau i ysmygu yw un o’r rhoddion mwyaf y gallwch chi ei roi i chi’ch hun.

Nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Mae cymorth am ddim gan y GIG ledled Cymru yn gwneud rhoi’r gorau iddi hyd at 3 gwaith yn fwy tebygol o aros.