Nid yw ymyrraeth Rwsia yn ein ffordd o fyw ddemocrataidd yn beth newydd, fel y gwelwyd gyda charchariad diweddar cyn-Arweinydd y Blaid Ddiwygio yng Nghymru, Nathan Gill, a gymerodd lwgrwobrwyon i siarad dros eu buddiannau yn hytrach na’n rhai ni.
Mae dylanwadau maleisus, yn enwedig y rhai sy’n ceisio tarfu ar ein systemau democrataidd ac economaidd, yn defnyddio’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fwyfwy i ledaenu eu propaganda.
Mewn oes o gamwybodaeth a botiau, rhaid inni ddelio ar frys â bygythiad ymyrraeth Rwsia a chyda’r rhai sy’n ceisio tanseilio ein cenedl, ein diogelwch a’n gwerthoedd.