Home > Uncategorized > Ymweliad Shufflebottom Ltd, Cross Hands

Yn ddiweddar, ymwelais â Shufflebottom LTD, cwmni teuluol lleol yn Cross Hands sy’n arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu, peintio a chodi strwythurau dur. Ar hyn o bryd maent yn cyflogi 80 o staff, gan gynnwys nifer gynyddol o brentisiaid a graddedigion.

Roeddwn yn falch o glywed, yn ogystal â’u busnes amaethyddol sefydledig, fod Shufflebottom yn ennill contractau adeiladu sector cyhoeddus ac wedi cyflenwi’r nifer fawr o fframiau dur sy’n sail i gyfadeilad Pentre Awel yma yn Llanelli. Maent hefyd yn tendro am waith ar y ffwrnais arc trydan ym Mhort Talbot. Rwyf am weld busnesau lleol yn manteisio ar gymaint â phosibl o’r cyfleoedd cadwyn gyflenwi hyn.

Roedd yn gyfle gwych i drafod buddsoddiadau parhaus, prosesau cyfredol, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwrando ar eu barn, a barn Cymdeithas Gwaith Dur Adeiladu Prydain, ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i helpu i ddatblygu a chefnogi eu sector ymhellach.