Bydd y Dame Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur dros Lanelli, heddiw yn pleidleisio i ddileu’r terfyn dau blentyn yn y Senedd, gan godi 450,000 o blant ledled y DU allan o dlodi.
Gan siarad cyn ail ddarlleniad y Bil, dywedodd y Dame Nia:
“Mae codi cymaint o blant allan o dlodi yn fuddsoddiad yn ein dyfodol, yn lleol yma yn Llanelli ond hefyd ledled gweddill y wlad.
“Mae tyfu i fyny mewn tlodi yn golygu bod plant yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol – gyda llai na chwarter y plant yn yr aelwydydd incwm isaf yn cael pum TGAU da. Maent bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi cyflyrau iechyd meddwl ac yn llawer mwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac o wynebu bywyd ar fudd-daliadau.
“O fis Ebrill eleni, bydd dros 2,200 o blant sy’n byw yn Llanelli yn elwa o’r newid hwn. Drwy bleidleisio i ddod â’r terfyn dau blentyn i ben, byddwn yn rhoi’r cyfle sydd ei angen ar y plant hyn i lwyddo mewn bywyd ac i gyflawni eu potensial gwirioneddol, a fydd yn fuddugoliaeth i bob un ohonom.”
“Gwasanaethais ar y Tasglu Tlodi Plant, a daethom i’r casgliad mai dileu’r terfyn dau blentyn yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol o godi plant allan o dlodi – 450,000 drwy’r mesur hwn yn unig, gan godi i 550,000 gyda mesurau eraill yn Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Lafur y DU. “
Mae mesurau yn y Bil i ddod i rym o fis Ebrill 2026.