Home > Uncategorized > Cynnydd cadarnhaol o ran lles anifeiliaid yn y DU – dechrau da

Roedd Strategaeth Lles Anifeiliaid Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn cynnwys 70 o argymhellion cadarnhaol ar gyfer codi safonau lles ar draws anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm, a bywyd gwyllt.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â’r RSPCA yn y Senedd ac ymunais â nhw i annog Llywodraeth y DU i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer gweithredu’r ymrwymiadau newydd a galw am ddadl flynyddol yn y Senedd i adolygu cyflwr lles anifeiliaid a chynnydd ar y Strategaeth.