Mae tua 1,000 o swyddi yn Llanelli yn y sector trafnidiaeth a logisteg.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â Chymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd yn y Senedd sy’n cynrychioli 21 o fusnesau lleol i glywed am ba mor bwysig yw’r diwydiant i ddatblygu ein heconomi ranbarthol ac i wrando ar eu pryderon sy’n cynnwys lles gyrwyr, cyfleusterau gorffwys, troseddu, diogelwch, sgiliau, seilwaith a phwysau rhyngwladol.
