Home > Uncategorized > AS Llanelli yn llofnodi Llyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost

Yr wythnos hon yn y Senedd, llofnodais Lyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, gan addo nodi Diwrnod Cofio’r Holocost – anrhydeddu’r chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost yn ogystal â thalu teyrnged i’r goroeswyr rhyfeddol sy’n gweithio’n ddiflino i addysgu pobl ifanc heddiw.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn disgyn ar 27 Ionawr, gan nodi pen-blwydd rhyddhau cyn-wersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid, Auschwitz-Birkenau. Ar draws y DU ac yn rhyngwladol, bydd pobl yn dod ynghyd i goffáu rhyddhau gwersylloedd crynhoi’r Natsïaid ledled Ewrop ac i gofio’r Holocost.

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, a ninnau’n mynd yn fwy pell o’r Holocost, mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i sicrhau nad yw’r erchyllterau hynny byth yn cael eu hanghofio, ac i adnewyddu ein penderfyniad i herio a dileu pob math o wrthsemitiaeth, hiliaeth a rhagfarn.