Mae herwgipio plant Wcrain gan Rwsia yn un o’r troseddau hawliau dynol mwyaf syfrdanol yn y rhyfel hwn.
Mae miloedd o blant wedi cael eu symud yn orfodol o’u teuluoedd, eu gwlad a’u diwylliant – wedi’u hamddifadu o’u hunaniaeth a’u dyfodol. Nid trosedd rhyfel yn unig yw hwn, ond ymosodiad uniongyrchol ar ddyfodol Wcráin, ar werthoedd Ewropeaidd, ac ar urddas dynol ei hun.
Heddiw yn y Senedd, ymunais â chydweithwyr i nodi Diwrnod Plant y Byd trwy sefyll gydag Wcráin a mynnu cyfiawnder. Mae pob plentyn yn haeddu tyfu i fyny’n rhydd, yn ddiogel, ac yn cael ei garu.
@BringKidsBackUA
#BringKidsBack
#NidYwPlantYnEiDdefnyddio