Home > Uncategorized > Llywodraeth Lafur y DU yn darparu cymorth biliau ynni ychwanegol i 110,000 yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru
  • Bydd 110,000 yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru yn derbyn £150 oddi ar eu biliau ynni drwy’r Gostyngiad Cartref Cynnes
  • Bydd un o bob pump teulu ledled Prydain yn cael cymorth gyda’u biliau, gan roi cymorth hanfodol i aelwydydd yn Llanelli
  • Mae llythyrau yn cadarnhau cymhwysedd ar gyfer y gaeaf hwn yn dechrau cyrraedd i deuluoedd ledled yr ardal

Bydd tua 110,000 o aelwydydd ychwanegol yng Nghymru yn gweld gostyngiad o £150 ar eu biliau ynni o ganlyniad i ehangu’r Gostyngiad Cartref Cynnes gan Lywodraeth Lafur y DU.

Mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn dechrau derbyn llythyrau yn manylu ar eu cymhwysedd, wrth i Lafur ehangu cymorth hanfodol cost byw i bob talwr biliau ar fudd-dal prawf modd.

Mae Llafur yn gweithredu i amddiffyn teuluoedd ledled y wlad, gan ddod â bron i 2.7 miliwn o aelwydydd ychwanegol i’r cynllun – gan wthio cyfanswm y nifer o aelwydydd sy’n derbyn y gostyngiad i tua 6.1 miliwn.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, AS Llanelli:

“Mae llawer o deuluoedd yn Llanelli yn dal i gael trafferth gyda chostau byw a bydd y Gostyngiad Cartref Cynnes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddyn nhw. Mae biliau ynni yn dal yn rhy uchel ond bydd hyn yn helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn angen y gaeaf hwn.”

“Bydd y cynllun estynedig bellach yn galluogi mwy o aelwydydd yn Llanelli i dderbyn cymorth i wneud eu biliau ynni yn fwy fforddiadwy.”

  • Aelwydydd yn Llanelli sy’n derbyn Credyd Pensiwn: Bydd Credyd Gwarant yn derbyn y Gostyngiad Cartref Cynnes yn awtomatig.
  • Bydd angen i rai aelwydydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael y gostyngiad, gyda llythyrau yn eu cynghori i ffonio’r llinell gymorth a ddarperir. Bydd angen bil trydan neu ddatganiad arnynt i gadarnhau enw a rhif cyfrif talwr y bil.
  • Anogir aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd eraill i gysylltu â’u cyflenwr ynni i gael gwybod sut i wneud cais am y gostyngiad.
  • Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes yma: https://www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme