Yn ddiweddar, ymwelais â Ben Hughes Engineering, cwmni lleol gwych wedi’i leoli yn Hendy, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith yn y diwydiannau awyrofod, amddiffyn a modurol.
Gwych dysgu mwy am eu harbenigedd yn y sectorau hyn a sut mae’n eu galluogi i fod yn llwyddiannus wrth wneud busnes gyda gweithgynhyrchwyr byd-enwog.


