Mae Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, wedi annog busnesau lleol yn yr ardal sy’n cael eu tagu gan daliadau hwyr i siarad allan a helpu gyda chyflwyno deddfau newydd i fynd i’r afael â’r broblem.
Mae’r Fonesig Nia yn cefnogi galwadau am ddeddfau newydd i sicrhau bod busnesau bach yn cael eu talu ar amser ac eisiau i berchnogion busnesau lleol sydd wedi dioddef oherwydd talwyr hwyr rannu eu profiadau a llunio’r lefel gryfaf o amddiffyniad posibl.
Dywedodd:
“Mae gan Lanelli lawer o entrepreneuriaid gwych ac un o’r heriau mwyaf cyffredin maen nhw’n eu hwynebu yw eu bod nhw’n treulio gormod o amser yn mynd ar ôl taliadau yn lle gallu canolbwyntio ar dyfu eu busnes.”
“Mae mwy na chwarter o fusnesau’n cael eu heffeithio gan daliadau hwyr bob blwyddyn gyda 14,000 ledled y DU yn cael eu gorfodi i gau’n flynyddol oherwydd taliadau hwyr. Yn aml, busnesau llawer mwy sy’n gyfrifol, heb dalu am nwyddau neu wasanaethau’n brydlon. Mae’n annheg, mae’n mygu busnesau bach yn arbennig ac mae’n rhaid iddo stopio o ddifrif.”
“Rwy’n cefnogi cyfreithiau llymach i sicrhau bod anfonebau’n cael eu talu’n gyflym a chosbau i dalwyr hwyr cyson. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Lafur y DU yn ymgynghori ar sut i wneud y cyfreithiau hynny’n gadarn ac yn ymarferol ac rwy’n annog pobl fusnes yn Llanelli sydd wedi’u heffeithio gan hyn i leisio eu barn.”
Ychwanegodd yr Aelod Seneddol dros Lanelli:
“Pan fydd busnesau’n cael eu talu ar amser, mae arian yn llifo’n gyflymach trwy gadwyni cyflenwi ac i’n heconomi leol. Gall busnesau fuddsoddi yn eu busnes yn hytrach na threulio amser ac arian yn mynd ar ôl anfonebau heb eu talu. Mae hynny’n golygu mwy o swyddi i Lanelli a’r ardaloedd cyfagos.”
Mae’r ymgynghoriad – Taliadau Hwyr: mynd i’r afael ag arferion talu gwael – ar gael yma:
https://ditresearch.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_0v37vzvBpfM5Exw