Home > Uncategorized > Gobaith cyflwyno Pecyn Gwaedu Critigol i Sir Gaerfyrddin

Yn ddiweddar, cyfarfûm â Melanie James, cyn Uchel Siryf Gorllewin Morganwg, yn Lewis Construction yn Nhrostre wrth iddi lansio ei huchelgais i ymestyn y broses o gyflwyno pecynnau Rheoli Gwaedu Critigol i Sir Gaerfyrddin.

Gwych gweld Lewis Construction yn eu cadw yn y gweithle, ar eu safleoedd ac yn eu cerbydau a chlywed gan Steve Richards o Orsaf Dân Llanelli am sut y llwyddodd i ddefnyddio un i ddelio â rhywun a oedd yn cerdded heibio a gafodd anaf difrifol i’w ben o gwymp cas.

Mae gan y pecynnau hyn y potensial i achub bywydau ledled Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gobeithio y gallwn berswadio eraill i’w darparu mewn gweithleoedd a cherbydau hefyd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Melanie ar nodi safleoedd cynnal, cyllidwyr posibl a chyfleoedd hyfforddi i wneud y mwyaf o’r defnydd yn lleol.