Mae bron i 600,000 o bobl ifanc yn parhau i golli allan ar gyfran o £1.4bn mewn Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant (CTFs) heb eu hawlio.
Am bob plentyn a anwyd ar ôl 1 Medi 2002, tan Ionawr 2011, rhoddodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd o leiaf £250 o’r neilltu iddynt gael dechrau gwell mewn bywyd. Aeth yr arian i gyfrif CTF y gallai rhieni ei agor. I’r rhai na ddefnyddiodd eu rhieni eu taleb, sefydlodd y llywodraeth gyfrif yn lle.
Yma yn Llanelli yn unig, crëwyd 7,765 o gyfrifon CTF. Mwy o wybodaeth a sut i wirio a ydych chi neu anwylyd yn colli allan, ar gael yma: https://www.gov.uk/child-trust-funds