Home > Uncategorized > Colofn Seren Llanelli…..ar helpu pobl leol gyda chyngor a chefnogaeth

Mae gweithio gyda thrigolion lleol ar broblemau unigol a’u helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn un o’r rhannau mwyaf gwerth chweil o fod yn Aelod Seneddol.

Efallai na fydd yn cael yr un lefel o gyhoeddusrwydd â’r dadleuon neu’r digwyddiadau diweddaraf yn San Steffan ond mae’n yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, o ran gwneud gwahaniaeth i fywydau beunyddiol pobl ar draws fy etholaeth yn Llanelli.

Boed yn darparu cyngor ar bryderon teuluol neu ariannol, delio â phroblemau hirhoedlog sy’n effeithio ar ein cymunedau neu’n syml gyfeirio pobl i’r cyfeiriad cywir at gymorth mwy arbenigol, byddwn i a fy nhîm yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud bywydau pobl yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn llai llawn straen.

Enghraifft dda o hyn yw digwyddiad galw heibio cymunedol a drefnais yn Neuadd Saron, Bynea yr wythnos diwethaf gan ddod â sawl sefydliad lleol a chenedlaethol ynghyd mewn un lle sy’n helpu pobl h?n i gael mynediad at gymorth gyda chostau byw, tai, Credyd Pensiwn, cymorth ariannol arall a llawer mwy.

Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin, Age Cymru Dyfed, Llesiant Delta Wellbeing, The Wallich a Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin wrth law i siarad â phobl ar sail un i un.

Rwyf wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau tebyg o amgylch Llanelli ac maent fel arfer yn boblogaidd ac yn cael eu mynychu’n dda. Rwyf hefyd yn cynnal cymorthfeydd cyngor rheolaidd yn bersonol a thros y ffôn neu ar-lein.

Drwy gydol pob blwyddyn, mae fy nhîm a minnau’n delio â miloedd o achosion unigol ar ystod eang o bynciau o blismona i bensiynau, ysgolion i filiau ynni. Os oes gennych unrhyw bryderon yr hoffech eu codi gyda mi neu weld a allaf fod o unrhyw gymorth gyda nhw, yna cysylltwch naill ai drwy e-bost yn nia.griffith.mp@parliament.uk neu ffôn ar 01554 756374.