Home > Uncategorized > AS Llanelli yn cefnogi cynllun Llafur i greu 15,000 o swyddi ynni glân ledled Cymru

Mae’r Fonesig Nia Griffith, AS Llanelli, heddiw wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer ffyniant swyddi ynni glân yng Nghymru, a fydd yn creu 15,000 o swyddi newydd erbyn 2030.

Mae Cynllun Swyddi Ynni Glân Llafur yn dangos sut y mae’r galw am weithwyr ynni glân i fod i godi’n sydyn gyda lefelau hanesyddol o fuddsoddiad mewn ynni glân.

Mae’r cynllun cyntaf o’i fath yn dangos sut y bydd crefftau allweddol fel plymio, weldio a thrydaneiddio yn elwa.

Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru yn elwa o swyddi ynni glân newydd o dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Lafur y DU.

Mae prosiectau yng Nghymru fel Clwstwr CCUS Hynet, Hwb Ynni Gwyrdd Port Talbot a datblygiadau gwynt alltraeth ar hyd ein harfordir yn chwarae rhan bwysig wrth yrru twf swyddi record mewn p?er glân, gyda 15,000 o swyddi i’w creu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bydd cynllun Llafur yn sicrhau bod swyddi ynni glân bob amser yn swyddi da, trwy sicrhau bod yn rhaid i gwmnïau sy’n derbyn grantiau a chontractau cyhoeddus greu swyddi gyda chyflog gweddus, mynediad at undebau llafur a hawliau cryf yn y gwaith.

Wrth wneud sylwadau ar y newyddion, dywedodd y Fonesig NIA GRIFFITH, Aelod Seneddol dros Lanelli:

“Bydd y Cynllun Swyddi Ynni Glân yn darparu gwaith diogel hirdymor, â chyflog da ledled Cymru i filoedd o bobl dros y blynyddoedd nesaf.

Yma yn Llanelli, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig gyda sector gweithgynhyrchu sefydledig, sylfaen addysg bellach ac uwch gref yn ogystal â bod wedi’n lleoli’n berffaith fel porth rhwng De a Gorllewin Cymru.

Mae’r gwaith yn dechrau nawr i sicrhau manteision y buddsoddiad hwn i Lanelli a’r ardaloedd cyfagos ac i fanteisio ar y chwyldro ynni glân ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol yn ein cymunedau lleol.”

Dywedodd Ed Miliband AS, Ysgrifennydd Ynni:

“Yr economi ynni glân yw’r llwybr i ddarparu’r swyddi da am gyflogau gweddus y mae ein cymunedau’n eu haeddu.

“Mae ein hagenda o blaid gweithwyr, o blaid swyddi, o blaid undebau yn darparu miloedd o gyfleoedd ledled y wlad, felly nid oes rhaid i bobl ifanc adael eu tref enedigol dim ond i ddod o hyd i swydd dda.”