Home > Uncategorized > HEDDIW – Digwyddiad Cynghori – Neuadd Saron, y Bynea

Mae cyngor a chymorth arbenigol i bobl h?n gyda chostau byw, tai, Credyd Pensiwn, cymorth ariannol arall a llawer mwy ar gael yn Neuadd Saron, y Bynea heddiw tan 4pm mewn digwyddiad galw heibio cymunedol rydw i wedi’i drefnu gyda sefydliadau lleol.

Mae cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gâr, Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin, Age Cymru Dyfed, Llesiant Delta Wellbeing, The Wallich a Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin wrth law, felly os ydych chi eisiau gwybod mwy, galwch heibio am sgwrs gyda nhw.