Rwyf wedi cefnogi galwadau am Ddeddf “Hillsborough” ers amser maith ac rwy’n falch bod Llywodraeth Lafur heddiw yn cyflawni ei haddewid i’w chyflwyno.
Bydd y gyfraith newydd yn sicrhau gwirionedd, didwylledd a chyfiawnder ar ôl trychineb a dim ond trwy ymdrechion diflino teuluoedd ac ymgyrchwyr dros sawl degawd y mae wedi bod yn bosibl. Mae ar gyfer y 97 a gollodd eu bywydau, ond mae hefyd yn perthyn i bawb sydd wedi ymladd dros gyfiawnder pan gawsant eu bradychu gan yr awdurdodau a oedd i fod i’w hamddiffyn.
