Home > Uncategorized > Colofn Seren Llanelli…..ar y gwahaniaeth y gall heddlu ychwanegol ar y bît ei wneud yn ein cymunedau

Adfer ein strydoedd, pentrefi a chanol trefi. Adfer parch at gyfraith a threfn. Rhoi’r gefnogaeth a’r offer sydd eu hangen ar yr heddlu a’n cymunedau lleol i fynd i’r afael â throseddu.

Dyma dri pheth y gwnes i addo eu rhoi’n flaenoriaeth yn ystod yr Etholiad Cyffredinol, ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ran pawb sy’n rhoi eu ffydd ynof i’w cynrychioli eto yn y Senedd.

Mae’n bleser, felly, gweld Llywodraeth Lafur y DU yn cadarnhau ei bod yn rhoi mwy o bobl yn ôl ar y bît, gan ddarparu hyd at 33 o swyddogion heddlu cymdogaeth newydd ar gyfer Dyfed Powys o fewn blwyddyn.

Daw’r newyddion fel rhan o fuddsoddiad o £200m gan Lywodraeth y DU i gychwyn recriwtio 13,000 o swyddogion heddlu a SCCH ledled y wlad. Bydd y cyllid cychwynnol hwn yn gweld bron i 3,000 yn fwy o swyddogion heddlu a SCCH mewn rolau cymdogaeth ledled y wlad erbyn mis Mawrth nesaf gyda mwy i ddilyn ar ôl hynny.

Yn ogystal, mae Mesur Troseddu a Phlismona Llafur sy’n gwneud ei ffordd drwy’r Senedd yn cynrychioli’r pecyn mwyaf o fesurau ar droseddu a phlismona ers degawdau, gyda 50 o gyfreithiau newydd i leihau troseddu a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel.

Mae’n cynnwys gweithredu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn erbyn menywod a merched yn ogystal â throseddau cyllyll. Mae amddiffyn gweithwyr manwerthu hefyd yn flaenoriaeth gyda chreu trosedd newydd o ymosod ar weithiwr manwerthu a dileu deddfwriaeth sy’n gwneud lladrad siopau o £200 ac islaw yn drosedd grynodeb yn unig.

Mae meysydd eraill y mae’r Mesur yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed, mynd i’r afael â cham-drin rhywiol plant (gan gynnwys gweithredu argymhellion o’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhywiol Plant) a phwerau newydd i fynd i’r afael â throseddau difrifol, trefnedig.

Mae’r camau hyn yn dangos y gwahaniaeth y gall cael Llywodraeth Lafur yn y DU ei wneud.