Home > Uncategorized > Colofn Seren Llanelli…..ar yr Adolygiad Gwariant a’r buddsoddiad y bydd yn ei gyflawni i Gymru

Mae Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn dangos sut y gall dwy Lywodraeth Lafur, wrth gydweithio, gyflawni buddsoddiad hirdymor sylweddol yn ein heconomi, ein seilwaith a’n gwasanaethau cyhoeddus allweddol yma yng Nghymru.

Cadarnhaodd yr Adolygiad £22.4bn y flwyddyn, ar gyfartaledd, ar gyfer Llywodraeth Cymru rhwng 2026-27 a 2028-29 i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a lleihau rhestrau aros y GIG. Dyma’r setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli a £5bn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Yn ogystal, bydd hefyd:

  • £445m o gyllid i reilffyrdd Cymru i gywiro blynyddoedd o dan-ariannu gan lywodraethau blaenorol. Bydd hyn yn golygu gorsafoedd newydd, gan alluogi mwy o drenau cyflymach ar linellau allweddol a chysylltu pobl a chymunedau ledled Cymru.
  • £211m mewn cyllid twf lleol yng Nghymru bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf. Ochr yn ochr â’n Bargeinion Twf Dinas, fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n darparu swyddi a buddsoddiad newydd yn Llanelli gan gynnwys Pentre Awel, mae hyn yn golygu ein bod yn buddsoddi bron i £900m mewn prosiectau twf lleol yng Nghymru yn ystod y Senedd hon.
  • £118m ar gyfer gwaith hanfodol i gadw tomenni glo yn ddiogel – popeth y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano i ariannu eu gwaith diogelwch am weddill y Senedd hon.
  • £80m mewn seilwaith porthladdoedd ym Mhort Talbot i sicrhau dyfodol ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd fel y gall ddatgloi miloedd o swyddi a biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Dde-orllewin Cymru.

Roedd yr Adolygiad Gwariant hwn i gyd yn ymwneud â buddsoddi yn ein diogelwch, ein hiechyd a’n heconomi – felly rydych chi a’ch teulu’n well eich byd.

Cyllideb gyntaf Llafur y llynedd oedd atgyweirio’r sylfeini; nawr rydym yn buddsoddi yn adnewyddiad Prydain.