
Galwais i mewn i agoriad swyddogol ffatri newydd Tuf Treads yn Cross Hands ddydd Gwener ac roedd yn wych gweld busnes lleol gwych yn ehangu ac yn creu swyddi ychwanegol.
Mae’r cyfleuster, a adeiladwyd gyda chymorth buddsoddiad Llywodraeth Cymru, yn eu galluogi i gynhyrchu teiars newydd o rai ail-law, wedi’u hailgylchu, gan gyfrannu at gynnyrch mwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac, ar yr un pryd, dod â chyflogaeth fedrus ychwanegol i’n hardal.
Rwy’n dymuno’r gorau i bawb sy’n ymwneud â Tuf Treads yn y fenter newydd hon!