
DATGANIAD CYHOEDDUS AR Y CYD ASAU
DYDD MAWRTH 27 MAI 2025
Cyhoeddwyd gan: Stephen Kinnock AS, Tonia Antoniazzi AS, Torsten Bell AS, Nia Griffith AS, Henry Tufnell AS, Ann Davies AS, Ben Lake AS, Carolyn Harris AS a Chris Elmore AS
Ddydd Gwener (23 Mai) cyfarfuom fel gr?p o ASau â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Gr?p Undeb Rygbi Cymru (WRU) i drafod ein pryderon ynghylch datblygiadau diweddar ynghylch y Cytundeb Rygbi Proffesiynol fel cynrychiolwyr yr etholaethau sy’n gysylltiedig â rhanbarthau’r Gweilch a’r Scarlets.
Roedd y Gweilch a’r Scarlets ill dau wedi ymrwymo i lofnodi’r PRA newydd cyn cwymp Rygbi Caerdydd a’i achub wedi hynny gan Undeb Rygbi Cymru. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, gofynnodd y clybiau am sicrwydd o degwch a chydraddoldeb i bob clwb. Nid oedd y cais gan glybiau gyda’r bwriad o ennill mantais iddyn nhw eu hunain, ond i helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i rygbi Cymru gyfan.
Mae rygbi yn ganolog i’n cymunedau, nid yn unig ar lefel broffesiynol, ond mewn ysgolion, clybiau lleol, a lleoliadau llawr gwlad ledled y wlad. Mae clybiau proffesiynol Cymru yn deall eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ecosystem rygbi yn ogystal â gwead cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymru.
Mae rygbi yn gêm sydd wedi’i hadeiladu ar barch. Mae’n hanfodol bod Undeb Rygbi Cymru yn trin pob un o glybiau proffesiynol Cymru â pharch a thegwch ac nad oes unrhyw glwb yn cael mantais ar draul eraill. Heb ein clybiau proffesiynol mae pawb – ysgolion, clybiau rygbi lleol a’r gymuned ehangach – yn dioddef.
Mae’r ansicrwydd y mae gweithredoedd a chyhoeddiadau Undeb Rygbi Cymru wedi’i achosi yn arwain at ansefydlogi rygbi Cymru a phopeth sy’n dibynnu arno ymhellach.
Mae’r ddau glwb wedi ein sicrhau eu bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithio ag Undeb Rygbi Cymru i gyrraedd cytundeb sy’n rhoi triniaeth deg i bawb.
Rydym yn annog Undeb Rygbi Cymru i ddychwelyd i’r bwrdd trafod i ddarparu’r sicrwydd o degwch a chydraddoldeb i bob clwb y mae’r Gweilch a’r Scarlets wedi gofyn amdano er budd gorau rygbi Cymru.