
Yr wythnos diwethaf ymwelais â’r Derwen Sessile lle mae dynion yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael strôc yn cwrdd unwaith y mis, ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt siarad, trafod profiadau a chynnig anogaeth i’w gilydd ar y ffordd i wella.
Mae dioddef strôc yn aml yn brofiad dinistriol i’r claf a’u teulu, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i fywyd gwaith a chartref, ac yn aml yn rhywbeth y mae dynion yn arbennig o’n ei chael hi’n anodd siarad amdano.
Roedd yn ddifrifol clywed am effaith a sgil-effeithiau strôc ar y dynion, ac yn drawiadol gweld eu penderfyniad i adennill eu galluoedd…… fel gorfod ail-ddysgu pob symudiad unigol i ddysgu cerdded eto. Dymunaf y gorau iddynt ar eu taith i wella.