Home > Uncategorized > Dylai Penaethiaid Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru agor sgyrsiau staff ar gynigion newid sifft

Rwy’n galw ar benaethiaid tân Brigâd Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru i eistedd i lawr gyda diffoddwyr tân a’u cynrychiolwyr, gwrando ar eu pryderon a chael trafodaethau priodol am unrhyw newidiadau arfaethedig i’r patrymau sifft.

Rwyf wedi cyfarfod â diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Llanelli ac Undeb y Brigadau Tân yn ddiweddar a gwn fod pryder gwirioneddol am y cynlluniau hyn.

Rydym i gyd yn gwerthfawrogi ymroddiad anhygoel ein diffoddwyr tân i swydd anodd a pheryglus, sy’n anochel yn cynnwys oriau gwrthgymdeithasol. O ystyried y bydd y rhan fwyaf o ddiffoddwyr tân yn rhieni ar ryw adeg, mae angen i batrymau sifft gyd-fynd â’r math o ddiwrnod gwaith y mae partneriaid a phlant yn debygol o’i gael. Mae’r patrwm presennol o 9am i 6pm a 6pm i 9am yn caniatáu hynny tra bod rhai o’r cynigion newydd yn torri ar draws hynny a bydd yn anodd bod yn gydnaws.