Home > Uncategorized > Dod â chymorth aml-fanc i Lanelli

Trawiadol ymweld â Multibank Cwtch Mawr Faith in Families yn Abertawe – rhan o rwydwaith o aml-fanciau a sefydlwyd gan y cyn Brif Weinidog Gordon Brown i leddfu caledi wrth i deuluoedd frwydro i ymdopi â chostau byw.

Rwy’n awyddus i weld gwasanaethau’r Multibank hwn yn cael eu hehangu yma i Lanelli a gweddill Sir Gaerfyrddin lle byddai’n darparu cefnogaeth i grwpiau a banciau bwyd presennol sy’n delio â theuluoedd mewn angen ac a fyddai’n gallu galw ar y Multibank i ddarparu eitemau ychwanegol nad oes ganddynt.

Rwy’n falch bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn cynnig gan y Cynghorydd Martyn Palfreman i gefnogi ei ehangu i Sir Gaerfyrddin a byddaf yn gweithio gyda chynghorwyr ac eraill i sicrhau bod hyn yn digwydd.