
Bydd tua 20,000 o bensiynwyr yn Llanelli yn derbyn hyd at £470 yn fwy y flwyddyn o’r mis hwn ymlaen. Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y DU gadarnhau cynnydd o 4.1% ym mhensiwn y wladwriaeth ar gyfer 2025/26.
Mae Llafur yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gadarn i’r clo triphlyg ar bensiynau, sy’n gwarantu bod pensiwn y wladwriaeth yn codi bob blwyddyn gan yr uchaf o 2.5%, chwyddiant, neu dwf enillion, ar gyfer y senedd gyfan. Hwn sydd wedi darparu arian ychwanegol i bensiynwyr ac sydd ar fin darparu tua £1,900 dros gyfnod y senedd hon.
Rydym yn parhau â’r ymdrech fwyaf erioed i sicrhau bod pensiynwyr sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn yn ei dderbyn, gan arwain at gynnydd o 81% mewn hawliadau. Mae bron i hanner can mil o bensiynwyr ychwanegol bellach yn cael Credyd Pensiwn sy’n werth £4,300 y flwyddyn ar gyfartaledd ac sy’n datgloi cymorth arall gan gynnwys cymorth gyda Chostau Tai, Treth y Cyngor a thrwyddedau teledu am ddim. Mae 1.3 miliwn o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr hefyd yn dal i dderbyn Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar ein bod yn cefnogi pobl o bob oed sy’n gofalu am anwyliaid – a fydd yn gweld y cynnydd mwyaf erioed yn y trothwy enillion ar gyfer Lwfans Gofalwr. Bydd y trothwy’n cynyddu £45 yr wythnos i £196, gan roi budd i fwy na 60,000 o ofalwyr erbyn diwedd y Senedd hon.
Ac mae 2,600 o’r rhai ar y cyflogau isaf yn ein sir wedi derbyn codiad cyflog y mis hwn wrth i gyfraddau newydd y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ddod i rym. Bydd gweithwyr amser llawn ar y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gweld cynnydd mewn termau real o £1,400 y flwyddyn a bydd prentisiaid yn cael codiad o 18%.
Rwyf wedi cefnogi’n gyson gynlluniau i gynyddu cyflogau a rhoi’r cyfle i fwy o bobl yng Nghymru gael gwaith diogel sy’n talu’n well ac rwy’n falch o weld bod llawer ledled Llanelli yn awr yn elwa o hynny.