Pryd bynnag y mae pobl LGBT+ wedi wynebu gelyniaeth, erledigaeth neu warth, rydym bob amser wedi bod yn ddewr ac yn benderfynol.
Yn ddiweddar, fel rhan o ddadl Mis Hanes LGBT+ yn y Senedd, tanlinellais y pwynt nad yw cynnydd yn anochel a bod y frwydr honno’n parhau, un y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan ynddi i sicrhau ein bod yn symud ymlaen a byth yn ôl.