
Mae’r adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli bellach wedi’i gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn dangos yn glir bod angen i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud gwelliannau sylweddol a chynyddu’r ddarpariaeth addysg ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â’r rhai ag awtistiaeth.
Roedd rhieni, disgyblion a chymunedau lleol yn llygad eu lle i frwydro dros ddyfodol Ysgol Heol Goffa. Mae’r neges yn glir nad oes angen dim llai nag ysgol newydd.