Home > Uncategorized > Diolch i’n posties!

Gwych gallu ymweld â thîm y Post Brenhinol yn eu Swyddfa Ddosbarthu yn Llanelli yn gynharach y bore yma.

Mae’r staff yno’n parhau i weithio’n galed ym mhob tywydd i ddosbarthu cardiau, anrhegion, llythyrau a phopeth arall ar draws etholaeth Llanelli a diolchais iddynt am eu hymdrechion nid yn unig yn ystod cyfnod hynod brysur y Nadolig ond drwy gydol gweddill y flwyddyn hefyd.