Os ydych chi’n ymwneud â chlwb chwaraeon lleol sydd wedi’i effeithio gan y stormydd diweddar, yna mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i alluogi Chwaraeon Cymru i helpu clybiau gyda’r costau atgyweirio ac adnewyddu yn sgil unrhyw ddifrod a achosir.
Gall clybiau a sefydliadau cymunedol dielw nawr wneud cais am grantiau o hyd at £5,000 i’w helpu i wella.
Mae’r Gronfa Difrod Storm ar agor i geisiadau tan 4pm ddydd Mawrth 17 Rhagfyr, a bydd yn darparu grantiau yn amrywio o £300 hyd at uchafswm o £5,000.
Ceir rhagor o fanylion yma: