Home > Uncategorized > Torchau Papi i Paddington

Fel rhan o goffau Diwrnod y Cadoediad, mae Great Western Railway yn trefnu #PoppiestoPaddington lle mae torchau pabi yn cael eu cludo o drefi a dinasoedd ar draws rhwydwaith GWR ar drên i’w gosod wrth y gofeb ryfel ar Blatfform 1 yn Paddington Llundain.

Yn gynharach y bore yma, ymunais â’r lluoedd arfog lleol, cyn-filwyr a chynrychiolwyr cymunedol yng Ngorsaf Llanelli i drosglwyddo torchau er cof am y rhai a wnaeth yr aberth eithaf i amddiffyn ein rhyddid.